Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-04-11 papur 1

Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru / Blaenoriaethau Ynni Llywodraeth Cymru mis Medi 2011

 

Y Prif Weinidog a Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

CYFLWYNIAD

1.       Mae’r papur hwn yn ymchwilio i’r cysylltiad rhwng polisi ynni a’r system cynllunio defnydd tir yng Nghymru. Mae’n amlinellu blaenoriaethau polisi ynni Llywodraeth Cymru.

2.       Mae’r papur yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Polisi Ynni Cymru

 

·         Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol Cymru

 

·         Rhyngweithio ar Ynni gan Gymru/y DU

 

·         Safbwynt Llywodraeth Cymru

 

POLISI YNNI CYMRU

Y pwyslais ar ynni

3.       Yn gynyddol, ynni yw’r mater pwysicaf o safbwynt datblygu cynaliadwy ar gyfer wynebu her y newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cytuno ar dargedau sy’n fwyfwy uchelgeisiol i leihau’n dibyniaeth ar danwydd ffosil a chynhyrchu ynni mewn ffyrdd sy’n fwy diogel a sefydlog yn y dyfodol. Mewn ymateb i achosion y newid yn yr hinsawdd, cytunodd arweinwyr gwledydd y G8 ar 11 Gorffennaf i dorri 80% ar allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.

 

4.       Mae’r cyflenwad ynni yn cyfrif am oddeutu 37% o allyriadau net nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Er mwyn cyflawnir agenda lleihau uchelgeisiol hwn, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod y bydd angen i Gymru dorri 80-90% ar ei defnydd o ynni carbon erbyn 2050. Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi cynnig bod angen datgarboneiddio’r rhan fwyaf o sector pŵer y DU erbyn 2030, a bod angen i oddeutu 30% o drydan y DU yn 2020 ddod o ffynonellau adnewyddadwy i fodloni targedau cyfreithiol yr UE ar gyfer defnyddio 15% o ynni adnewyddadwy erbyn 2020.

 

5.       Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn amlinellu camau gweithredu Llywodraeth Cymru i dorri 3% bob blwyddyn ar allyriadau cyfwerth â charbon mewn meysydd sydd wedi’u datganoli a thorri o leiaf 40% ar allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2020.

 

 

Cynhyrchu ynni yng Nghymru

 

6.       Mae cynhyrchu ynni yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig ym marchnad ynni’r DU; daw prif gyfraniad cynhyrchu trydan yng Nghymru (tua 35 awr terra-watt) o ryw 8GW o safleoedd cynhyrchu glo, nwy neu niwclear. Fodd bynnag, fel yng ngweddill y DU, mae llawer o’r safleoedd hyn yn dirwyn i ben. Mae Cymru’n cynhyrchu ychydig yn llai nag 1GW o drydan adnewyddadwy ar hyn o bryd, sef tua 10% o’r trydan rydym yn ei ddefnyddio.

 

7.       Mae blaenoriaethau ynni allweddol Llywodraeth Cymru yn cynnwys darparu marchnad ynni i gynnig rhwydwaith hyblyg ac adweithiol drwy ystod o ffynonellau carbon isel amrywiol a chynhenid (felly’n ddiogel) er mwyn cael cyflenwad sicr a datgarboneiddio heb ormod o gost i ddefnyddwyr.

 

Datgarboneiddio’r sector ynni

 

8.       Mae rheidrwydd moesol ac ymarferol dros symud yn gyflym i sefyllfa lle rydym yn llawer llai dibynnol ar danwydd ffosil ar gyfer cynhyrchu ynni. Mae Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru “Chwyldro Carbon Isel” yn nodi tair colofn y dull gweithredu hwnnw:  

 

·         Sicrhau’r arbedion ynni a’r effeithlonrwydd ynni gorau posibl;

·         Troi at gynhyrchu trydan carbon isel sicr drwy ffynonellau adnewyddadwy cynhenid (ac felly’n ddiogel), yn ganolog ac yn lleol fel ei gilydd;

·         Gwneud y gorau o’r cyfleoedd am swyddi a sgiliau ymarferol, ymchwil a datblygu, hyrwyddo, ymgysylltu personol ac ymgysylltu cymunedol.

 

9.       Rydym bellach yn credu bod gennym y potensial i gynhyrchu hyd at 48 awr terra-watt y flwyddyn drwy gymysgedd amrywiol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2025, gyda 50% o ffynonellau morol (gan gynnwys prosiect llanw ar Aber Hafren), 40% o ffynonellau gwynt (ar y môr ac ar y tir) a’r gweddill yn bennaf o ynni biomas cynaliadwy neu brosiectau cynhyrchu gwres a thrydan lleol bach (a meicro) sy’n defnyddio ffynonellau gwynt, solar, dŵr neu fiomas cynhenid.

 

10.    Mae Chwyldro Carbon Isel yn cynnig sylfaen gref ar gyfer darparu ynni adnewyddadwy drwy amrywiaeth o dechnolegau. Gwynt ar y tir yw’r dechnoleg adnewyddadwy fwyaf ymarferol ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n cyfleusterau porthladd estynedig i ffrwyno’r cyfleoedd mawr ar y môr; y datblygiad gwynt ar y môr >6GW arfaethedig a datblygiad sector tonnau a llanw cryf, gan gynnwys rhagolygon tymor hwy yr Hafren fel un o brosiectau ynni adnewyddadwy unigol mwyaf y byd.

 

Ynni yn y dyfodol

 

11.    Hyd yn oed wrth i ni wella effeithlonrwydd ynni ac arbedion ynni drwy raglenni Llywodraeth Cymru fel Arbed, efallai y bydd y galw am drydan yn dyblu erbyn 2050 yn sgil galw cynyddol am drydan i ddarparu ynni carbon isel i fodloni’n hanghenion gwres a thrafnidiaeth.

 

12.    Ynghyd â datblygiad technolegau adnewyddadwy, bydd angen buddsoddi yn ein gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil ar gyfer technolegau llosgi glo tra effeithlon ar dymheredd uwch, ac mewn systemau dal a storio carbon (CCS) i leihau’u hallyriadau carbon yn sylweddol.

 

13.    Mae gan Gymru nifer o orsafoedd pŵer glo a nwy naturiol syn cyfrannun sylweddol at gadernid rhwydwaith trydan cyfredol y DU ac yn cynnig hyblygrwydd hollbwysig o ran cynhyrchu carbon isel cynyddol, ac o ran sicrhau cyflenwad diogel. Wrth i orsafoedd glo a hen orsafoedd niwclear gael eu tynnu o rwydwaith y DU, ac wrth i dechnolegau newydd ddod yn fwy hyfyw yn fasnachol, bydd ein gorsafoedd tanwydd ffosil, ynghyd â’r terfynfeydd mewnforio LNG mawr a’r orsaf storfa bwmpio fwyaf yn Ewrop yn Ninorwig, yn chwarae rôl bwysicach fyth o ran cynnal cyflenwadau trydan a nwy y DU. Os caiff cyfleusterau dal a storio carbon eu gosod ar fiomas cynaliadwy mawr, gallai fod yn opsiwn carbon negyddol diogel a ffafriol iawn.

 

14.    Mae Atomfa Wylfa fel ag y mae yn cyflogi 500-600 o staff, sydd hyd at draean yn fwy yn ystod gwaith cynnal a chadw. Cynigir ymestyn oes Atomfa Wylfa drwy ddadgomisiynu un o’r ddau adweithydd a throsglwyddo’r tanwydd sydd heb ei ddefnyddio i’r adweithydd arall am gyfnod o 18 mis. Wedi hynny, ni fydd Wylfa A yn cynhyrchu pŵer, cyn ei dadgomisiynun llawn.

 

15.    Gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi penderfynu ar Ynys Môn fel y lleoliad gorau ar gyfer gorsaf niwclear newydd, gyda Horizon Nuclear Power yn cyhoeddi’i fod yn bwriadu bwrw ymlaen â chais ar gyfer adeiladu cyfleusterau niwclear newydd yn Wylfa, rydym am sicrhau’r budd gorau i Gymru.

 

16.    Mae Cymru eisoes yn elwa ar nifer o ddiwydiannau a sefydliadau ymchwil ynni o’r radd flaenaf, gan gynnwys y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel a’r Sustainable Building Envelope Centre. Bydd datblygu’r gwaith cydweithredol hwn yn bwysig o ran datblygu ymchwil a’r gallu i adleoli staff yn y dyfodol. Bydd canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau i gefnogi technolegau ynni newydd a datblygol yn allweddol o ran sicrhau bod Cymru yn gwireddu buddsoddiad o £50+ biliwn mewn ffynonellau adnewyddadwy mawr a phrosiectau trydan carbon isel eraill dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.

 

17.    Bydd sicrhau bod newidiadau Llywodraeth y DU i’r farchnad yn cyflawni’n hagenda carbon isel, gan sicrhau hefyd bod ein diwydiannau dwys ar ynni yn gystadleuol yn allweddol o ran datblygu’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae hon yn her ddigynsail ond gall gynnig manteision sylweddol, gan helpu i hybu buddsoddiad mewn swyddi a busnesau newydd a chyflawni’n blaenoriaethau ynni allweddol, diogelwch ynni, amddiffyn cwsmeriaid rhag amrywiadau ym mhrisiau tanwydd ffosil, dileu tlodi tanwydd a chyflawni’n hamcanion lleihau carbon dros y degawdau nesaf.

FFRAMWAITH CYNLLUNIO CENEDLAETHOL CYMRU

Fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol

18.    Mae’r fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol yn cynnwys Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol. Eu diben yw cyflawni polisïau Gweinidogion Cymru, gan gynnwys Chwyldro Carbon Isel. Mae’r Nodiadau Cyngor Technegol yn esbonio sut dylid cymhwyso’r datganiadau polisi ym Mholisi Cynllunio Cymru drwy gynlluniau datblygu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Rhaid ystyried y polisi cynllunio cenedlaethol wrth baratoi cynlluniau datblygu a gallant fod yn berthnasol i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio, p’un ai gan awdurdodau cynllunio lleol, yr Arolygiaeth Gynllunio neu Weinidogion Cymru.

19.    Sicrhau datblygu cynaliadwy yw thema ganolog Polisi Cynllunio Cymru a’r Nodiadau Cyngor Technegol. Mae’r bennod 'Cynllunio ar gyfer Cynaliadwyedd’ ym Mholisi Cynllunio Cymru yn amlinellu rôl y system gynllunio o ran creu Cymru fwy cynaliadwy. Mae’n nodi’r egwyddorion a’r amcanion polisi allweddol sy’n sail i’r ffordd rydym yn cynllunio ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys yr angen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a darparu ar gyfer ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel ar bob graddfa.

Cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel

20.    Rydym yn ceisio sicrhau bod y polisi a chyfarwyddyd cynllunio cenedlaethol ar bob lefel yn ei gwneud yn haws i ni gyflawni’n dyheadau ynni a newid hinsawdd, gan gynnwys targedau’r DU ac Ewrop ar ynni adnewyddadwy. Un o’n prif amcanion polisi cynllunio fel yr amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru yw darparu ar gyfer ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel ar bob graddfa. Amlinellir ein polisi a’n cyfarwyddyd cenedlaethol yn Adran 12.8-10 Polisi Cynllunio Cymru. Cafodd ei ddiweddaru ym mis Chwefror 2011 wedi i Chwyldro Carbon Isel gael ei gyhoeddi. Mae’n polisi diwygiedig yn ceisio sefydlu fframwaith lle dylai awdurdodau cynllunio lleol gynllunio mewn ffordd gadarnhaol ar gyfer pob ffurf ar ddatblygu ynni adnewyddadwy.

21.    Mae’n polisi cynllunio’n annog prosiectau ynni cymunedol. Yn ogystal, mae’r rheoliadau cynllunio ar gyfer offer meicro-gynhyrchu wedi cael eu llacio dros y blynyddoedd diwethaf, gyda gwelliannau pellach ar y gweill, cyn belled ag y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn eu cymeradwyo.

Nodyn Cyngor Technegol 8

22.    Cyhoeddwyd TAN 8 yn 2005 yn dilyn ymgynghoriad estynedig a mewn bwn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Fe’i ategir gan ymchwil empeiraidd annibynnol ac mae’n rhoi cyngor ar oblygiadau cynllunio ystod eang o dechnolegau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt ar y tir, treulio anaerobig, biodanwydd ar gyfer cerbydau, gwres a phŵer cyfun, ynni drwy wastraff, cnydau tanwydd (gan gynnwys tanwydd pren), pŵer dŵr, methan, systemau gwres solar a systemau solar ffotofoltäig.

23.    Mae TAN 8 yn nodi goblygiadau cynllunio ar ddefnydd tir yn sgil bodloni’n dyheadau ynni. Un o swyddogaethau pwysig TAN yw cyfyngu ar dwf ffermydd gwynt mawr mewn rhannau eraill o Gymru. I sicrhau hyn, nodwyd saith Ardal Chwilio Strategol ar gyfer datblygu ffermydd ynni gwynt mawr ar y tir (dros 25 MW).

Cynllunio Ar y Môr

24.    O dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer ardal forol Cymru. Diben cynllunio morol o dan y Ddeddf yw sicrhau datblygu cynaliadwy yn yr ardal forol; un o’r mesurau llwyddiant allweddol fydd rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr o’r cychwyn o ran penderfyniadau caniatâd/trwyddedu.

25.    Yn dilyn ymgynghoriad ar ein dull gweithredu ar gynllunio morol, rydym yn ceisio datblygu a mabwysiadu cynllun cenedlaethol erbyn 2013/14. O’i fabwysiadu, yn gyffredinol bydd angen gwneud penderfyniadau ynghylch ardal forol Cymru yn unol â’r cynllun morol. Bydd angen i Weinidogion Llywodraeth y DU gytuno ar y cynllun os yw’n ymwneud â materionheb eu datganoli.

26.    Ar y cyd â Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, rydym wedi mabwysiadu Datganiad Polisi Morol y DU gyfan. Mae’r datganiad yn amlinellu’r fframwaith blaenoriaeth polisi strategol ar gyfer cynlluniau morol ledled y DU, gan bwysleisio pwysigrwydd ynni.    

RHYNGWEITHIO AR YNNI GAN GYMRU/Y DU

Fframwaith deddfwriaethol a chydsyniad

27.    Mae’r broses gydsyniad ar gyfer prosiectau datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn dibynnu ar faint y datblygiad arfaethedig. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw penderfynu ar seilwaith ynni mawr dros 50 MW ar y tir (Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd) o dan bwerau yn Neddf Drydan 1989, gyda chymorth y Comisiwn Cynllunio Seilwaith a sefydlwyd drwy Ddeddf Gynllunio 2008.

28.    Mater i’r Sefydliad Rheoli Morol yw penderfynu ar seilwaith ynni mawr ar y môr, hyd at 100MW; y Comisiwn Cynllunio Seilwaith a Gweinidogion Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar ganiatadau dros 100MW ar y môr.

29.    Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cael gwared ar y Comisiwn Cynllunio Seilwaith a rhoi Cyfarwyddiaeth Seilwaith Cenedlaethol yn ei le o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio, drwy’r Mesur Lleoliaeth sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd. Bydd y Gyfarwyddiaeth hon yn cymryd cyfrifoldeb am ystyried cynigion dros 50MW ar y môr yn 2012.

30.    Cyfrifoldeb awdurdodau cynllunio lleol yw penderfynu ar brosiectau o dan 50MW yng Nghymru o dan eu pwerau cynllunio gwlad a thref, yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.

Datganiadau Polisi Cenedlaethol

31.    Mae’n rhaid i’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (a’i olynydd) a’r Sefydliad Rheoli Morol ystyried prosiectau ynni yn unol â’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol a’r Datganiad Polisi Morol. Ym mis Gorffennaf, lluniodd Llywodraeth y DU gyfres o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Ynni. Mae’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru ei pholisïau ei hun ar gyfer ynni adnewyddadwy, ond mae gan y rhain lai o bwys o ran gwneud penderfyniadau ar brosiectau mawr na’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Comisiwn Cynllunio Seilwaith i ddefnyddio Datganiadau Polisi Cenedlaethol i wneud penderfyniadau, ac eithrio y byddai’r effaith andwyol yn fwy na’r manteision, felly byddai modd anwybyddu polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys TAN 8. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi Datganiad Polisi Cenedlaethol Morol ar ryw bwynt yn y dyfodol.

32.    Yng Nghymru, mae cyfrifoldeb dros roi caniatadau cysylltiedig ac ategol, fel gwelliannau priffyrdd, mewn perthynas â chynigion dros 50MW yn gyffredinol wedi’i ddatganoli i gyrff a sefydliadau cyfrifol fel awdurdodau lleol, ac nid y Comisiwn Cynllunio Seilwaith sy’n ystyried hyn. Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n amlinellu sut bydd y ddau gorff yn cydweithio i’w gwneud yn haws i ystyried prosiectau ynni mawr yng Nghymru

33.    Ar gyfer caniatadau ynni ar y môr, Gweinidogion Cymru sy’n bennaf gyfrifol am roi caniatadau cysylltiedig ac atodol hyd at 12 milltir fôr o’r arfordir drwy drwyddedau morol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a thrwyddedau rhywogaethau o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth 2010. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y Sefydliad Rheoli Morol a’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith i’w gwneud yn haws ystyried prosiectau ynni mawr ar y môr yng Nghymru.

34.    Yn achos ynni niwclear, bydd y Comisiwn Cynllunio Seilwaith yn ystyried Gorchymyn Cydsynio Datblygu (DCO) Horizon ar gyfer adeiladu cyfleusterau niwclear newydd. Cyn cyflwyno’r DCO, mae gofyn i ymgeiswyr ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol, gyda’r adborth ohono yn hysbysu’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith ac awdurdodau lleol ar yr effeithiau a’r mesurau lleddfu arfaethedig. Mae datblygwyr yn cydnabod fwyfwy bod angen cynnig manteision cymunedol yn sgil datblygiadau mawr.

35.    Bydd y Comisiwn Cynllunio Seilwaith yn ystyried ceisiadau gan y Grid Cenedlaethol ar gyfer seilwaith grid newydd a/neu ei atgyfnerthu mewn perthynas ag adnoddau cynhyrchu ynni newydd.

SAFBWYNT LLYWODRAETH CYMRU

 

36. Mae’n Datganiad Polisi Ynni ‘Chwyldro Carbon Isel’ yn amlinellu, yng nghyd-destun ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a strategaeth gyffredinol y Llywodraeth ar y newid yn yr hinsawdd, y camau y bydd angen eu cymryd i sbarduno’r broses o symud i economi effeithlon, carbon isel yng Nghymru.

 

37.  Rydym o’r farn y dylai pwerau gweithredol i roi caniatadau ar gyfer gorsafoedd pŵer mawr o dan y Ddeddf Drydan fod yn fater i Weinidogion Cymru. Rydym o’r farn ei bod yn anghyson mai Cymru yw’r unig weinyddiaeth ddatganoledig yn y DU heb y pwerau hyn, ac o dan y trefniadau presennol  nid oes gennym yr offer angenrheidiol ii gyflawni’n dyheadau polisi mewn ffordd integredig a llyfn.

 

38.  Rydym o’r farn ei bod yn hanfodol i integreiddio datblygiadau ynni mawr a phrosesau cynllunio yng Nghymru i sicrhau fframwaith ar gyfer cynnydd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol lleol er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl Cymru. Y ffordd orau o gyflawni prosiectau lleol, yn enwedig y rheini â pherchnogaeth gymunedol rannol a rhannu elw, yw drwy gyfundrefn ganiatadau sy’n ystyried materion pwysig yr ardal y mae’n ei gwasanaethu ac sydd wedi’i datblygu mewn ymateb i gyfarwyddyd lleol sensitif a chyfarwyddyd cynllunio penodol.

 

39.  Ceir cefnogaeth drawsbleidiol i ddatganoli pwerau ynni ymhellach. Mae’r pedair plaid yn y Cynulliad o blaid datganoli’r pwerau i Gymru ac mae llawer o’r ymarferwyr ynni yng Nghymru yn cefnogi hyn mewn egwyddor. Maent o’r farn bod hyn yn cyd-fynd â democratiaeth leol ac am weld system gynllunio gyflymach a symlach, yn unol â’n dyheadau am gynllun seilwaith cenedlaethol i Gymru.

 

40. Byddwn yn parhau i bwyso am ddatganoli’r drefn caniatadau gorsafoedd pŵer mawr a chysylltiedig i Gymru ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 100 megawat ar dir ac ar y môr.